Cais Sian Gwenllian

Yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 26 Hydref, rhoddodd y Comisiynydd grynodeb o’i safbwyntiau ar gynigion y Llywodraeth yn y papur gwyn “Taro’r Cydbwysedd Iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg”. Gan fod nifer o eitemau i’w trafod yn y sesiwn, nid oedd yn bosibl mynd i fanylder yn y cyfarfod ar bwyntiau penodol. Hefyd ar y pryd, nid oedd ymateb y Comisiynydd i’r papur gwyn wedi ei gyflwyno i’r Llywodraeth. Cafodd yr ymateb ei gyflwyno ar 30 Hydref ac mae copi ar gael yma – Cymraeg / Saesneg. Rydym yn credu bod yr ymateb yn delio gyda ymholiad Sian Gwenllian. Er enghraifft, mae ein hymateb i gynigion y Llywodraeth ar ail-strwythuro y gwaith hybu i’w weld yn adrannau 1.18 i 1.21; a 2.1 i 2.14 y ddogfen. Mae’r llythyr sy’n cyflwyno’r ymateb hefyd yn crynhoi safbwynt y Comisiynydd yn fwy cyffredinol.

 

Nodiadau briffio

Mae’r Comisiynydd wedi cyhoeddi’r ddau nodyn briffio erbyn hyn ac wedi eu rhannu gyda’r Pwyllgor. Mae copïau pellach ar gael ar ein gwefan:

Nodyn Briffio “Sefyllfa’r Gymraeg mewn rhaglenni prentisiaeth yng Nghymru” 14 Tachwedd 2017 (Cymraeg) (Saesneg)

Nodyn Briffio “Darpariaeth Gofal Plant ac Addysg Blynyddoedd Cynnar Cyfrwng Cymraeg 22 Tachwedd 2017 (Cymraeg) (Saesneg)

 

Gwybodaeth am gwynion

Gofynnwyd am nifer y cwynion unigol a dderbyniodd y Comisiynydd yn ystod 2016-17:

 

Nifer yr achwynwyr: 162

Nifer y cysylltiadau am gwynion: 263

 

Mae’r ffigwr cyntaf yn rhoi cyfanswm yr unigolion sydd wedi cysylltu yn ystod 2016 - 17. Mae’r ail ffigwr yn cynnwys data am nifer y cysylltiadau am gwynion yn yr un cyfnod. Noder y gall fod achwynydd wedi cyflwyno cwyn(ion) a oedd yn annilys ar ôl eu hasesu ac mae’r niferoedd uchod yn cynnwys pob cysylltiad a gyflwynwyd fel cwyn.